Comiwnydd ola Ewrop i fod yn y Morning Star

Erthygl gan Attila the Stockbroker yn y Morning Star sy’n sôn cryn dipyn am Datblygu:

I heartily applaud all those who are helping to revive and nurture the language and Dave Datblygu is in the vanguard of that. None of this of course means that I understand Welsh although David has helped me with some essential words: “cwrw” (“beer”) “pel-droed” (“football”) and, from Monty Python’s Anglo-Hungarian Phrasebook sketch, “mae fy nethau yn ffroidro gyda mwynhad” (“my nipples explode with delight”) which is always a good one to have up your sleeve.

Digon o le yn y dosbarth, Attila.

(Diolch i Datblygu Trideg am y linc.)

EP newydd – Darluniau’r Ogof

Testun o ebost ANKST:

TEITL/TITLE –DARLUNIAU OGOF O’R UNFED GANRIF AR HUGAIN E.P
ARTIST – DATBLYGU
FFORMAT – RECORD 7” VINYL / DL
CAT NO -ANKST 132
DYDDIAD RHYDDHAU / REL DATE – TACH/NOV 26TH 2012 / WWW.ANKST.NET

Mae 2012 yn gweld DATBLYGU yn dathlu tri deg mlynedd ers ffurfio ( anghofiwch y dathu arall yn y cyffinie dros yr hen sianel pitw ‘na.) Eisioes da ni wedi cael y cyfweliadau ar y newyddion a radio cymru, yr arddangosfa a ffilm ddogfen ar y gorwel. Ond ma hi’n anodd meddwl am unrhyw beth fedrith wella ar y pleser o weld Dave Datblygu yn iach ac yn edrych llond ei groen yn mwynhau yr holl sylw.

Wel i ffan rhonc o’r band mae na un peth all fod hyd yn oed yn well – cerddoriaeth newydd gan Datblygu ! A dyna sydd yn cael ei gynnig gan recordiau ankst musik gyda rhyddhau EP pedwar trac gwbl newydd gan David a Pat. Yr leinyp clasurol a’r sain clasur – cyfraniad ffantastic i flwyddyn arbennig iawn i’r band.

Mae un seshiwn recordio draw yn stiwdio Fflach yn yr Hydref yn ddigon i brofi fod gwychder y caneuon emosiynol yn dal yna a syniadaeth David mor berthnasol ag erioed – ‘Potensial Cymru yw paradwys, so dwi’n aros adref ac yn gorffwys’ (Bywoliaeth).

Wir mae’r tracie i gyd yn cicio fel mul a ma hi’n amlwg ein bod ni wedi bod ar ein colled wrth i’r band ddisgyn yn dawel ers y nawdega. Am nawr mae’r ep yma yn ddigon …

Mae’r feinyl cyfyngiedig ar gael yn mhremiere ffilm newydd Owain Llyr am y band

PROSIECT DATBLYGU – http://mwldan.ticketsolve.com/shows/873486242/events
a siop Ankst ar y we www.ankst.net ac ambell i siop leol.

This year has seen the band DATBLYGU celebrating 30 years since their formation and it gives ankstmusik records the greatest pride and pleasure to announce that they band have made a foray into the studio to record a brand new E.P. which will be released on seven inch vinyl.

This four track E.P. is a further indicator of their ongoing renaissance and continued musical relevance. Four tracks that recall the classic Datblygu sound and line up of Pat and David. The music, once again kicks like a mule, and the record makes it clear that the voice and words we’ve missed hearing for such a long time is finally back.

This limited edition release will be on sale at the premiere of Owain Llyr’s upcoming film about the band – PROJECT DATBLYGU http://mwldan.ticketsolve.com/shows/873486242/events
and through the ankst webshop.

A1(i) BYWOLIAETH (ii) WASTOD YN CERDDED YN UNIG
A2 (i) FFANTASI’R SAFONAU (ii) CAMPWS!

PATRICIA M. MORGAN :INSTRUMENTS
DAVID R.EDWARDS : VOX/INSTRUMENTS
RECORD LABEL : ANKST

Bydd y record ar gael yn Theatr Mwldan wythnos nesa, neu cewch chi ei archebu o wefan Ankst, neu oddi wrth Sadwrn.

Prosiect Datblygu

Ffilm newydd am y band gan Owain Llŷr, gyda’r ymddangosiad cyntaf yn y sinema digidol newydd sbon yn Theatr Mwldan, Aberteifi.

23 Tach., 24 Tach., 25 Tach., 26 Tach. yn Mwldan 3

Mynnwch eich tocynnau nawr.

Wedi ei eni mewn ystafell wely tri deg mlynedd yn ôl yn Aberteifi, cyflwynwyd y band Datblygu fel y gr?p iaith Gymraeg modern gyntaf; cafodd ei gerddoriaeth ddigyfaddawd ei ddisgrifio fel athrylith, a dywedwyd bod ei ddylanwad ar gerddoriaeth yn anfesuradwy. Wedi ei arwain gan y bardd rebel carismatig anarchaidd David R. Edwards, daeth y gr?p i ddiffinio’r hyn a alwodd Gareth Potter o D? Gwydr yn ‘enaid sin tanddaearol Cymreig’ yn y 1980au. Gwnaeth safbwynt asidig Datblygu o Gymru fodern – y bourgeoisie artistig a gwleidyddion oedd y targedau amlwg – rhyddhau cenhedlaeth gyfan o fandiau ac artistiaid. Mae pum sesiwn gyda’r enwog John Peel ar Radio 1 yn rhywfaint o fesur o’r yr effaith a gawsant. Cafodd y band ei gefnogi gan Peel, ond yn eironig cafodd ei anwybyddu gan y cyfryngau prif ffrwd yng Nghymru, roedd y band yn rhan o sin tanddaearol egnïol oedd hefyd yn cynnwys Y Cyrff, Yr Anhrefn, Ffa Coffi Pawb a Llwybr Llaethog, mewn cynghrair randym a ail-ddiffiniodd cerddoriaeth boblogaidd iaith Gymraeg. Mae’r ffilm annibynnol newydd hon gan y cyfarwyddwr Owain Ll?r yn dathlu 30 mlynedd o Datblygu, ac mae’n cynnwys cyfweliadau hir gyda David R. Edwards a Patrica Morgan o’r gr?p, ynghyd ag eraill sy’n cofio’r gr?p anarchaidd hwn ar ei anterth. Mae Prosiect Datblygu yn dangos am y tro cyntaf yn Theatr Mwldan.

A new film about the band by director Owain Llŷr, with the premier in Theatr Mwldan’s new digital cinema. 23 Nov, 24 Nov, 25 Nov, 26 Nov at Mwldan 3.

Book your tickets here.

Born in a bedroom in Cardigan thirty years ago, the band Datblygu were hailed as the first truly modern Welsh-language group; their uncompromising, immense music has been described as genius, and their influence on Welsh music as immeasurable. Fronted by the charismatic and anarchic rebel poet David R. Edwards, the group came to define what T? Gwydr’s Gareth Potter calls ‘the soul of the Welsh underground scene’ in the 1980s. Datblygu’s acidic take on modern Wales – the artistic bourgeoisie and politicians were typical targets – liberated a whole generation of bands and artists. Five Peel Sessions with legendary Radio 1 DJ John Peel is some measure of the effect they had on the converted. Championed by Peel but ironically ignored by mainstream Welsh media, the band was part of an energetic underground scene which also included Y Cyrff, Yr Anhrefn, Ffa Coffi Pawb and Llwybr Llaethog, in a random alliance which re-defined Welsh language popular music. This new independent film from director Owain Llyr celebrates 30 years of Datblygu, and features extensive interviews with David R. Edwards and Patricia Morgan from the group, as well as notable others who remember this anarchic ensemble in its prime. Prosiect Datblygu premieres at Theatr Mwldan.
SUBTITLES

Datblygu ar “Music Arcades”

Wastad yn braf dod ar draws ffans Datblygu sy’n byw ochr draw y clawdd ieithyddol, yn enwedig pan maen nhw’n sgwennu cystal â hyn:

Not that the songs are all pretty. Sometimes listening to Datblygu is like being harangued by the drunk in the corner of the bar who you fear may be about to get violent or abusive at any moment. But you can’t tear away, and when he he hits his stride with his declamations you get the uneasy envious feeling that he has wallowed in beauty and joy that you, with your good sense and sobriety, have only glimpsed briefly.

Drueni ffeindio bod y blog wedi dod i ben erbyn hyn, gan ei fod wedi cyrraedd ei nod o sgwennu am bob un record sy yn ei gasgliad – sy’n syniad gwych am flog, gyda llaw, a ffordd dda o gael gwared o lot o records, siwr o fod.

Ta beth, dyma beth oedd ‘da fe i’w ddweud am ei records Datblygu, a ddaeth iddo trwy garedigrwydd ei gyfaill Medwyn – y Medwyn yma, am wn i.

Diolch i Rhys am bwyntio ma’s bod David (y blogiwr hanner-anhysbys) wedi sgwennu cymaint am Datblygu.

Croeso ’99

Fformat: CD.
Label: ANKST – ANKSTMUSIKCD089
Dyddiad: 1999

CD am ddim (?) a ddosbarthwyd yn Steddfod Ynys Môn, 1999. Mae’r trac Datblygu wedi’i ailficsio gan Llwybr Llaethog. Mae’r cynnwys ar gael ar iTunes.

Dyma flogiad amdano.

Traciau
1 – Datblygu – Maes E 1999
2 – Rheinallt H. Rowlands – Never Thought I’d Feel This Way
3 – Infinity Chimps – Pedal Steel
4 – Tystion – Dallt y Dalltins
5 – Da Da – Yr Enfys
6 – Llwybr Llaethog – Drilacila
7 – Ectogram – Scratch

MP3 “Yr Arswyd”

Mae Dafydd Tomos wedi dod o hyd i gopi o’r gân Yr Arswyd, o’r caset Caneuon Serch i Bobl Serchog. Yn ôl Daf, roedd e wedi recordio’r gân oddi ar y radio yn y 90au cynnar.

[mp3]

Oes rhywun gyda mwy o’r caneuon yma ar ffurf digidol, tybed?

Mae e hefyd yn sôn am drac ar gaset Y Gorffennol i’r Presennol, a ddaeth ma’s ar Casetiau Neon yn 1984:

roedd can gan rhywun o’r enw “Myfyrwyr Moesoldeb” a roedd mam Dave yn canu arno!

Bydde’n wych ‘sai rhywun â chopi o hwnna rhywle.

Datblygu yng Ngŵyl Dinefwr

Bydd sesiwn arbennig yn ystod Gŵyl Dinefwr, dydd Sadwrn, 30 Mehefin:

Trafodaeth ar ‘Datblygu a Sin Gerddorol Gymraeg yr 80au a’r 90au’ gyda’r cynhyrchydd Dyl Mei, y cyn newyddiadurwr i’r NME Iestyn George a’r cynhyrchydd ffilm Owain Llŷr.

Hefyd:

[blackbirdpie id=”205232790453747713″]

Don’t know if there’ll be translation available for this, but check it out, if you can:

Discussion on ‘Datblygu and the Welsh Music Scene’ with producer Dyl Mei, ex NME writer Iestyn George and Owain Llŷr.

Y Gorffennol i’r Presennol

Fformat: Caset.
Label: Casetiau Neon, Neon 013
Dyddiad: 1984

Yn cynnwys y gân “Defaid y Disgo”.

Mae’r caset yn cael ei grybwyll mewn disgyddiaeth Datblygu yn y ffansîn Psycho, Haf 1992. Dw i erioed wedi gweld copi, ac am wn i, ddim wedi clywed y gân chwaith.

Clwb 23, Aberystwyth, 10/12/92

Wedi ffeindio sgan o’r ffleiar (tocyn?) hwn ar Flickr sy’n sôn am “Parti Nid’dolig / Saturnalia”. Roedd y gig yn Club 23, Seabank, ond dw i ddim yn gwybod beth oedd hynny, ac mae fy Google-fu wedi fy methu am y tro cynta heddi.

(7/5/12) Diolch i Iwan am ei nodyn isod:

Clwb 23 yn noson oedd yn digwydd yn achlysurol yn Aberystwyth (o’r côd post SY23 am wn i) mewn amryw o lefydd fel y Seabank a’r Boar’s Head.