MP3 “Yr Arswyd”

Mae Dafydd Tomos wedi dod o hyd i gopi o’r gân Yr Arswyd, o’r caset Caneuon Serch i Bobl Serchog. Yn ôl Daf, roedd e wedi recordio’r gân oddi ar y radio yn y 90au cynnar.

[mp3]

Oes rhywun gyda mwy o’r caneuon yma ar ffurf digidol, tybed?

Mae e hefyd yn sôn am drac ar gaset Y Gorffennol i’r Presennol, a ddaeth ma’s ar Casetiau Neon yn 1984:

roedd can gan rhywun o’r enw “Myfyrwyr Moesoldeb” a roedd mam Dave yn canu arno!

Bydde’n wych ‘sai rhywun â chopi o hwnna rhywle.