Helo, byd

Wel, mae’r safle yn dechrau siapo nawr. Bydd mwy o gynnwys yn cael ei ychwanegu dros yr wythnosau nesa.

Falch iawn gweld bod pobl wedi dechrau creu cyfrifau yma, ond mae rhaid ymddiheuro bod hi ddim wedi bod yn bosibl, tan nawr, i fewngofnodi a gadael sylw. Mae hyn yn gweithio nawr, gobeithio, felly plîs, dwed helo.

7 Ateb i “Helo, byd”

  1. Wedi cael neges gan un defnyddiwr (*codi llaw tuag at Lithfaen*) i ddweud nad yw’r ffurflen anfon sylwadau yn gweithio yn dda ar bob porwr. Dw i’n gweithio ar hynny nawr.

    Mae’n iawn yn Safari i’r Mac, ond bod y cursor yn ddu, sy’n dwp.

    /hacio css

  2. Wedi bod yn chwarae gyda CSS unwaith eto – oes rhywun sy’n fodlon naill ai postio rhywbeth yma, neu ebostio fi os oes problem (nicdafis@gmail.com) – mae popeth yn edrych yn iawn i fi ond dw i wedi clywed si bod problemau gyda IE i Windows.

  3. Mae pethau od yn digwydd weithiau, f.e. heddiw pan wnes i mewngofnodi gwnaeth Word Press mynd a fi yn syth at dudalen Recordiadau/ Fi Du.

Mae'r sylwadau wedi cau.