Datblygu ar “Music Arcades”

Wastad yn braf dod ar draws ffans Datblygu sy’n byw ochr draw y clawdd ieithyddol, yn enwedig pan maen nhw’n sgwennu cystal â hyn:

Not that the songs are all pretty. Sometimes listening to Datblygu is like being harangued by the drunk in the corner of the bar who you fear may be about to get violent or abusive at any moment. But you can’t tear away, and when he he hits his stride with his declamations you get the uneasy envious feeling that he has wallowed in beauty and joy that you, with your good sense and sobriety, have only glimpsed briefly.

Drueni ffeindio bod y blog wedi dod i ben erbyn hyn, gan ei fod wedi cyrraedd ei nod o sgwennu am bob un record sy yn ei gasgliad – sy’n syniad gwych am flog, gyda llaw, a ffordd dda o gael gwared o lot o records, siwr o fod.

Ta beth, dyma beth oedd ‘da fe i’w ddweud am ei records Datblygu, a ddaeth iddo trwy garedigrwydd ei gyfaill Medwyn – y Medwyn yma, am wn i.

Diolch i Rhys am bwyntio ma’s bod David (y blogiwr hanner-anhysbys) wedi sgwennu cymaint am Datblygu.