Country Teasers – Secrets in Welsh

Roedd sgans o’r clawr yn y stwff ces i gan Pat, dw i’n gweld bod copi o’r record yn yr arddangosfa yn Waffle, a dw i wedi clywed y band yn cael eu disgrifio fel “Scottish Datblygu tribute band”; ond maen nhw’n lot mwy na hynny, hefyd.

Mae’n amlwg bod Country Teasers wedi slipo trwy fy rhwyd i, yn amlwg, achos doeddwn i ddim yn gwybod dim byd mwy amdano, nes i fi ddechrau trial ffeindio copi o’r trac ’ma:

[mp3]

Ffeindies i’r trac fan hyn. Mae ar gael ar y CD hwn, ond dw i’n methu ffeindio ffordd o brynu hynny.