A oes sganiadau?

Dyn ni wedi cael cwpl o sganiadau o gloriau prin ac ati, ond pethau oedd gyda ni yn barod oedd y rheini, yn anffodus. Falle byddai’n syniad i mi bostio rhestr yma o bethau sy ddim gyda ni, er mwyn i bobl helpu mas. Bydd y rhestr yma yn tyfu, wrth i mi ail-gydio yn y gwaith sganio (wedi bod yn fishi gyda “gwaith” yn diweddar).

Os oes rhywbeth gyda chi, gadewch sylw yma, neu gysylltu â fi trwy ebost.

  • Putsch – angen sgan o glawr a label y record (mae caset gyda fi)
  • Ll.Ll v. T.G. v. DRE – angen sgan o glawr a label y record

  • Peel Sessions – angen sgan o glawr a label y record
  • Wyau a Pyst – cloriau a labeli y ddau record gwreiddiol

Adran gigs

Wedi dechrau adran gigs (dim lot i’w weld, hyd yn hyn). Yn y pen draw, gobeithiwn greu rhestr o bob gig gan y band, a bydd lle i bobl buodd yna ychwanegu eu hatgoffion.

Helo, byd

Wel, mae’r safle yn dechrau siapo nawr. Bydd mwy o gynnwys yn cael ei ychwanegu dros yr wythnosau nesa.

Falch iawn gweld bod pobl wedi dechrau creu cyfrifau yma, ond mae rhaid ymddiheuro bod hi ddim wedi bod yn bosibl, tan nawr, i fewngofnodi a gadael sylw. Mae hyn yn gweithio nawr, gobeithio, felly plîs, dwed helo.

Dyn ni ddim yma eto

Bydd y wefan yn lansio yn yr wythnosau nesa. Dyn ni ati ar hyn o bryd roi cymaint o gynnwys ag sy’n bosibl i mewn i’r safle. Bydd datganiad ar maes-e ac yn y wasg pan bydd pethau mewn rhyw fath o drefn.

Diolch am fod yn amyneddgar.

Eitem am David R. Edwards yn Sothach Rhif 43 – Awst 1992. Diolch i Dafydd am y sganiadau.

Sprat and Mackerel

Fformat: Caset.
Label: Sprat and Mackerel – SPRAT 1
Dyddiad: 1987 / 1988

Blodeugerdd sîn ddanddaearol Cymru a gogledd Lloegr, yn cynnwys un trac gan Datblygu (Hen Ysgol Cloff), a thraciau gan Plant Bach Ofnus, The Lungs, The Membranes ac eraill.

Cyhoeddwyd y tâp gan Mark Williams, a oedd yn olygydd sawl ffansîn yn ardal Corwen a Rhuthun yn yr 80au, ac yn aelod gwreiddiol y band Emily, a oedd wedi’u llofnodi i Creation ar y pryd daeth y caset yma allan.

[blackbirdpie id=”195929542127390721″]

[blackbirdpie id=”195930805757952001″]

Cewch lawrlwytho o fan hyn.

Traciau

  1. Jackdaw with Crowbar – Sailor Soul Survivor
  2. The Shrubs – Ballet Gorilla (live)
  3. Datblygu – Hen Ysgol Cloff
  4. The Noseflutes – Shallow for Deep
  5. The Membranes – Electric Storm
  6. Sperm Wails – Lady Chatterly’s Lover
  7. Plant Bach Ofnus – Pyrdredd
  8. Howl In the Typewriter – Water Yr Plants
  9. Howl In the Typewriter – Close
  10. The Noseflutes – Girth
  11. The Lungs – The Day James Cagney Died