Cyfweliad Gruff Rhys

Mae Adam Walton newydd bostio trawsgrifiad cyfweliad â Gruff Rhys o fis Mai 2000 (jyst cyn i “Mwng” ddod ma’s), lle maen nhw’n trafod Datblygu, ymysg pethau eraill:

IT’S A VERY RESPECTFUL NOD OF THE HEAD FROM SUPER FURRY ANIMALS TO COVER DATBLYGU’S ‘Y TEIMLAD’ ON ‘MWNG’, WHY THIS PARTICULAR SONG?

‘Y Teimlad’ was the most obvious pop song that they ever wrote. There’s other songs, like ‘Casserole’, but I think that ‘Y Teimlad’ is an absolute standard song, you know, and someone could do a Sinatra version. I wish we could have done a full-on orchestral version, but the song is there now for someone else to do that!

IT SITS VERY WELL AMONGST THE OTHER SONGS ON MWNG BECAUSE THEY ARE ALL SIMPLE AND DIRECT TOO, WAS IT IMPORTANT TO PRESERVE THAT SIMPLICITY?

Dave Datblygu once criticised one track minds working in forty eight track studios, so we thought that we would maybe be respectful of that. Also we’ve recently been touring with bands like ‘Olivia Tremor Control’ who keep the recording really simple. Most of their stuff is recorded on 4 track. People like ‘Palace’ record whole albums in five hours.

WAS ONE OF THE OTHER REASONS FOR DOING THE ‘DATBLYGU’ SONG MAYBE TO DRAW PEOPLE’S ATTENTION TO THAT FACT THAT THERE WERE GREAT WELSH BANDS BEFORE THE MANICS THAT ARE ALMOST IN DANGER OF BEING FORGOTTEN BECAUSE OF THE SPEED OF THE RECENT RENAISSANCE?

I don’t think that we would exist as a band that’s sort of well known if it hadn’t been for bands like Datblygu and Anrhefn who sort of paved the way for us politically, for bands like us to exist.

Dave yn Darllen

Bydd noson arbennig yn Llyfrgell Aberteifi i ddathlu cyhoeddiad llyfr David, nos Fercher 9 Rhagfyr 2009 am 7.30. Manylion yn poster isod.

Noson gyda Dave

Diweddiad: lluniau o’r darlleniad/cyfweliad.

Lluniau Pesda Roc 1985 (ac eraill)

Mae GanMed64 wedi postio set o luniau Pesda Roc 1985 i Flickr, sy’n cynnwys dyrnaid o luniau Datblygu. Mae cwpl dw i wedi gweld o’r blaen (un adnabyddus iawn o David a’r un bach yn drist ‘ma) ond hefyd un dw i ddim yn ei nabod o Pat, wedi’i bliso m’as ar y bas.

[Gol. 7/9/09]

Mwy o luniau gan yr un ffotograffydd, y tro ‘ma o’r gig “Fy Nhethau yn Ffrwydro gyda Mwynhad”, Gwesty’r Marine, Aberystwyth, Awst 30ain 1986.

Dave a Pat a Pat wrth ei hunan.

[Gol. 10/09/09]
Mae Med wedi postio mwy o’i luniau, a’u rhoi mewn set Flickr, Datblygu i gyd.

Cân y Mynach Modern

Datblygu - Cân y Mynach Modern
Mae Ankst wedi rhyddhau cân newydd cyntaf gan Datblygu ers blynyddoedd maith – Cân y Mynach Modern. Mae’r gân ar gael ar sengl 7″ yn unig o wefan Ankst.
Recordiwyd y gân yn stiwdio Fflach, Aberteifi, yn gynharach eleni, gan David a Pat yn unig. Dangoswyd ffilm o’r sesiwn yn y noson lansio CD y Peel Sessions, yn Aberystwyth ym mis Ebrill.

Fideo answyddogol, gyda (slight) remix:

Erthygl Plan B

Mae rhifyn Gorffennaf y cylchgrawn Plan B yn cynnwys erthygl wych ar Datblygu. Mae’r cylchgrawn ar gael am £4.00 o fan hyn. Wna i bostio PDF o’r erthygl yn y man, ond dyma cwpl o dameidiau i aros pryd:

A photo in the booklet for Wyau/Pyst/Libertino, the essential collection of Datblygu albums, shows a temporary stage housed on a huge truck, someweher in Wales, covered by a tarpaulin and occupied by Datblygu themselves. You have to look twice to notice anyone apart from vocalist David R Edwards, who’s standing on the lip and barking at six children sitting on the grass wearing anoraks. It’s an image so dreary and purgatorial, you imagine that despite being a black and white picture, it was taken using colour film. Intentionally or otherwise, it conveys the notion of a prophet unrecognised in his own land, which is at least a half-truth…

I don’t know how much I’m missing out on by not being a Welsh speaker, but even accounting for whatever nuances are lost post-Anglicisation, DRE still beats down almost all late 20th Century lyrical challengers. The Dylans, Cohens and Mark E Smiths take their rightful place in the comparison fodder…

Trac newydd a lansiad CD Peel Sessions

Newydd gael yr isod gan gwmni Ankst:

datganiad i’r wasg – press release – datganiad i’r wasg – .press release

DATBLYGU yn nol – casgliad Peel Sessions allan ar CD, trac hollol newydd fel sengl a noson o ffilmie am Datblygu yn yr Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Braint gan ankstmusik yw cyhoeddi fod cewri y sin tanddaearol DATBLYGU ar fin ail ymddangos. Mae’r grŵp (David R.Edwards a Pat Morgan ) newydd recordio trac gwbl newydd – ‘Can y mynach modern’ – a fydd yn ymddangos fel sengl ar ankstmusik yn yr haf.

Ma’r band wedi penderfynnu dod at ei gilydd i ddathlu ymddangosiad casgliad o sesiynau y grwp ar gyfer sioe Radio 1 John Peel a fydd yn dod allan ar ddydd Llun Mai y 5ed. (manylion pellach isod)

Mi fydd noson lawnsio ar gyfer y PEEL SESSIONS yn digwydd draw yn Sinema y Drwm yn y Llyfgrell Genedlaethol yn Aberystwyth ar Nos Wener Ebrill y 25ain. (Gweler y poster amgaedig.)

Mi fydd y noson a elwir yn DATBLYGU:Y LLWCH AR EICH SGRIN yn noson o ffilmie am y grwp a fydd hefyd yn gyfle cynta unrhyw le i’r trac newydd gan y band gael ei chwarae yn gyhoeddus.

Hefyd mi fydd y noson yn gyfle cynta i brynu copiau o’r PEEL SESSIONS CD.

Mi fydd y noson hefyd yn gyfle i atgoffa ein hunain o yrfa a dylanwad y grwp arbennig iawn yma a mae ankstmusik yn disgwyl y bydd David a Pat yn mynychu’r noson .

Mae tocynna yn 4 punt yr un ac ar gael o www.ankst,net

Manylion pellach emyr@ankst.co.uk

DATBLYGU THE PEEL SESSIONS 1987-1993 ( ankst119)

Allan – Mai y 5ed 2008

‘You’d have to be a bit of a ninny to ignore Datblygu’ – John Peel

‘Datblygu are the Welsh Gospel’ – Gruff Rhys

Casgliad cynhwysfawr o holl ganeuon y grwp ar gyfer sioe John Peel ar Radio 1. Dyma fydd y tro cynta’ i’r traciau yma ymddangos ar CD.

  • 1987
    1. BAGIAU GARETH (Gareth’s bags)
    2. 2.CARPIOG (Ragged)
    3. CERDDORIAETH DANT (Tooth music)
    4. NESAF (Next)
  • 1988
      FANZINE YNFYTYN ( Idiot fanzine)

    1. CRISTION YN Y KIBBUTZ (Christian in the kibbutz)
    2. GWLAD AR FY NGHEFN (Land on my back)
    3. DROS Y PASG ETO (Over Easter again)
  • 1991
      POP PETH ( Pop thing)

    1. SLEBOG BYWYDEG (Biology slut)
    2. NID CHWIWGI PWDIN GWAED (Not a blood pudding pilferer)
    3. RHAG OFN I CHI ANGHOFIO( In case you should forget)
  • 1992
      HYMNE EUROPA 1992 (European anthem)

    1. DIM DEDDF DIM EIDDO (No statute, no Property)
    2. RAUSCHGIFTSUCHTIGE (Drug addict)
    3. HABLADOR (Chatterbox)
  • 1993
      CLWB 11-18 ( Club 11-18 )

    1. WASTOD ABSENNOL (Always absent)
    2. MAE ARIAN YN TYFU TU MEWN COED (Money grows inside trees)
    3. DIAHORREA BERFOL ( Verbal diahorrea)

Datblygu - Y Llwch ar EIch Sgrîn

Ypdêt cyntaf ers tro byd

I ddweud mod i ddim wedi angohofio am hyn, mod i am fwriadu ychwanegu mwy o bethau cyn bo hir, a mod i wedi trwshio lincs i gwpl o MP3s o’r caset Fi Du, sy bod yn ffycd ers iddyn nhw gael eu postio.

Iw cant get ddy staff.

Cyfweliad newydd â David R. Edwards

Cyrhaeddodd y cyfweliad newydd sbon yma drwy’r post ddoe. Diolch yn fawr i David ac i’r cyfaill anhysbys wnaeth lunio’r cwestiynau.

1. Beth wyt ti’n meddwl am y ffaith bod gwefan ar gael i gyd am Datblygu?

Wel, mae’n dda bod yn rhan o’r byd modern. Ond mae’n rhyfedd fod rhywun wedi mynd i’r trafferth o wneud gwefan i gyd am y band. Mae’n anrhydedd. Diolch Nic.

2. Ar beth wyt ti’n gwrando arno ar hyn o bryd? Wyt ti’n gwrando ar lawer o gerddoriaeth newydd, y radio, neu rywbeth arall?

Radio 6, y pêl droed ar Radio 5, Huw Stephens ar Radio Cymru a hen recordiau gan bobl fel Joy Division. Hefyd Radio 2 ond ddim Radio 1 ers i John Peel farw.

3. Beth oedd gig gorau Datblygu yn bersonol i ti?

Doeddwn i ddim yn hoff iawn o chwarae o flaen pobl – felly fy hoff perfformiadau yw y pumed sesiwn Peel, a perfformiad byw recordion ni i ‘Fideo Naw’ – y caneuon “Rauschgiftsuchtige” a “Dim Deddf, Dim Eiddo”.

4. Beth yw dy hoff gân Datblygu a pham?

Mae’n amrywio o wythnos i wythnos. Ar y funud rwy’n hoff o “Cyn Symud i Ddim” o 1985, fersiwn Peel o “Gwlad ar fy Nghefn” a un cân o’r pumed sesiwn Peel – “Mae Arian yn Tyfu Tu Mewn Coed”. Pam? Oherwydd eu bod yn cyflawni beth roeddwn eisiau.

5. Wnest ti gyfarfod John Peel wrth recordio’r holl sesiynau Peel? Sut oedd e’n teimlo ei fod yn cymryd gymaint o sylw o’r band?

Cwrddes i â John yn Aberhonddu yn 1986, doedd e ddim yn y stiwdio pan roeddwn yn recordio. Roedd yn grêt cael sylw ganddo. Roeddwn wedi bod yn gwrando ar ei raglen ers 1978 felly roedd yn anrhydedd fod yn rhan o’i sioe. Rwy’n ei golli yn fawr.

6. Pam wyt ti’n cefnogi Chelsea?

Roedd Dad a Mam yn cefnogi Leeds yn rownd olaf Cwpan F.A. 1970 am fod ganddynt golgeidwad Cymraeg – roedd rhaid i fi fod yn wahanol felly cefnogais y tîm arall. Chelsea enillodd ac rwy i wedi eu cefnogi ers hynny.

7. Ydy Cymru’n mynd i ennill cwpan y byd nes ymlaen y flwyddyn yma?

Gobeithio. Ond mae timau fel Awstralia a Seland Newydd rhy gryf.

8. Lle yw hoff le yn y byd yr wyt ti wedi ymweld â?

Tri ateb. Yn gyntaf – ystafelloedd gwely cyn cariadon. Yn ail – stiwdios y B.B.C. yn Maida Vale, Llundain. Yn drydydd – Tesco Aberteifi, lle mae popeth rwy’i angen ar gael.

9. Os bydde ti’n gallu recordio sesiwn yn y stiwdio gyda unrhywun, byw neu farw, pwy fyset ti’n dewis?

“Toss up” rhwng Kurt Cobain a Frank Sinatra. Tu allan i fyd cerddoriaeth – Charles Bukowski. Mae rhain i gyd wedi marw yn anffodus.

10. Oes gen ti unrhyw fwriad recordio mwy o gerddoriaeth yn y dyfodol?

Dydw i heb pigo lan y gitar ers dros degawd felly nid yw’n debygol.

11. Pwy yw dy hoff fand/artist Gymraeg erioed? Pam?

Pop Negatif Wastad. Gwnaethon nhw un albwm. Roeddwn yn ffrindiau gyda Esyllt a Gareth ac roedd yn grêt clywed eu gwaith.

12. Pwy yw dy hoff fand/artist rhyngwladol erioed? Pam?

The Fall. Am fod Mark Smith yn athrylith ac am fod e wedi cadw i fynd am 30 blwyddyn.

13. Beth yw dy hoff frecdan?

Caws a tomato – dydw i ddim yn bwyta cig.

14. Wyt ti’n ymweld â’r we o gwbl?

Nac ydw. Sdim cyfrifiadur gyda fi.

15. Oes gen ti unrhywbeth i ychwanegu?

Dim ond dweud diolch m y cyfweliad. Mae’n dda cael ymarfer yr ymennydd. A roedd y cwestiynau yn fwy perthnasol na’r rhai roedd rhaid diodde yn yr ysgol a’r coleg ac mewn cyfweliadau ar gyfer swyddi.

Datblygu ar iTunes

Diolch i Suw am hyn: mae cynnwys y pecyn tairalbym bellach ar gael ar iTunes, a gwasanaethau eraill, mae’n debyg.

Mae un trac arall gan y band ar iTunes, sef fersiwn wedi’i hailficsio o Maes E o’r casgliad “Croeso ’99”. Gwerthfarogwn unrhyw wybodaeth am hyn, dyma’r tro cyntaf i mi ei glywed. Sleifar yw un o’r rapwyr, yn amlwg, ond pwy yw’r llall?

Ebost yn gweithio

Newydd sylweddoli mod i wedi sôn (ar Bandit) am gyfeiriad ebost datblygu@datblygu.com – dim ond nawr dw i wedi cofio seto hwnna lan.

Ymddirheuriadau i unrhyw un sy wedi’n hebostio ni a heb gael ymateb. Dylai fod yn iawn nawr.