Newyddion

Newidiadau i’r safle.

Sesiwn Peel a chyfweliad Beti George

Newydd ychwanegu dau beth o’r archifau – Sesiwn John Peel o 1992, a’r cyfweliad wnaeth DRE ar sioe Beti a’i Phobl yn 2001.


Ebost yn gweithio

Newydd sylweddoli mod i wedi sôn (ar Bandit) am gyfeiriad ebost datblygu@datblygu.com – dim ond nawr dw i wedi cofio seto hwnna lan. Ymddirheuriadau i unrhyw un sy wedi’n hebostio ni a heb gael ymateb. Dylai fod yn iawn nawr.


A oes sganiadau?

Dyn ni wedi cael cwpl o sganiadau o gloriau prin ac ati, ond pethau oedd gyda ni yn barod oedd y rheini, yn anffodus. Falle byddai’n syniad i mi bostio rhestr yma o bethau sy ddim gyda ni, er mwyn i bobl helpu mas. Bydd y rhestr yma yn tyfu, wrth i mi ail-gydio yn [...]


Adran Fideos

Diolch i Dafydd, sy wedi postio fideos Datblygu ar YouTube, mae gyda ni adran fideos fach. Gobeithir y bydd mwy o bethau yn ymddangos fan hyn co bo hir.


Adran gigs

Wedi dechrau adran gigs (dim lot i’w weld, hyd yn hyn). Yn y pen draw, gobeithiwn greu rhestr o bob gig gan y band, a bydd lle i bobl buodd yna ychwanegu eu hatgoffion.


Erthyglau o’r wasg

Wedi dechrau ar y gwaith o lanlwytho erthyglau o’r wasg. Daw’r rhan fwya o’r pethau cynnar o gasgliad personol David Edwards.


Cystadleuaeth Sebon

Manylion i’w dilyn – wotsh ddys sbeis…


Cwpl mwy o gloriau

Newydd ychwanegu lluniau o gwpl mwy o gloriau, sef y casetiau cynnar Amheuon Corfforol a Fi Du. Diolch i Pat am anfon y rhain.


Helo, byd

Wel, mae’r safle yn dechrau siapo nawr. Bydd mwy o gynnwys yn cael ei ychwanegu dros yr wythnosau nesa. Falch iawn gweld bod pobl wedi dechrau creu cyfrifau yma, ond mae rhaid ymddiheuro bod hi ddim wedi bod yn bosibl, tan nawr, i fewngofnodi a gadael sylw. Mae hyn yn gweithio nawr, gobeithio, felly plîs, [...]


Dyn ni ddim yma eto

Bydd y wefan yn lansio yn yr wythnosau nesa. Dyn ni ati ar hyn o bryd roi cymaint o gynnwys ag sy’n bosibl i mewn i’r safle. Bydd datganiad ar maes-e ac yn y wasg pan bydd pethau mewn rhyw fath o drefn. Diolch am fod yn amyneddgar.


Eitem am David R. Edwards yn Sothach Rhif 43 – Awst 1992 .