Newyddion

Newidiadau i’r safle.

Cyfweliad Sothach #10

Dyma gyfeliad wnaeth Gorwel Roberts â Dave yn ôl yn haf 1989. Diolch yn fawr i Iwan Standley am ei sganio a rhannu. Mae pdf o’r rhifyn cyfan fan hyn.


Gwlad ar fy Nghefn – Klaus Kinski

Does dim digon o ail-fersiynau caneuon Datblygu, nag oes? Mae’r trac ar gael o wefan Ankst, ar feinyl hyfryd hyfryd.


Sprat and Mackerel Compilation Extravaganza

Fformat: Caset. Label: Dim (?) Dyddiad: 1987 / 1988 ? Blodeugerdd sîn ddanddaearol Cymru a gogledd Lloegr, yn cynnwys un trac gan Datblygu (Hen Ysgol Cloff), a thraciau gan Plant Bach Ofnus, The Lungs, The Membranes ac eraill. Cewch lawrlwytho o fan hyn. Traciau Jackdaw with Crowbar – Sailor Soul Survivor The Shrubs – Ballet [...]


Cyfweliad Gruff Rhys

Mae Adam Walton newydd bostio trawsgrifiad cyfweliad â Gruff Rhys o fis Mai 2000 (jyst cyn i “Mwng” ddod ma’s), lle maen nhw’n trafod Datblygu, ymysg pethau eraill: IT’S A VERY RESPECTFUL NOD OF THE HEAD FROM SUPER FURRY ANIMALS TO COVER DATBLYGU’S ‘Y TEIMLAD’ ON ‘MWNG’, WHY THIS PARTICULAR SONG? ‘Y Teimlad’ was the [...]


Tatw Datblygu

Ar flog Huw Stephens heddi, Y Tatŵ mwya’ cŵl erioed. Sarah Datblygu sy biau’r fraich, ac felly’r tatŵ:


Erthygl Plan B (2008)

Soniais i am yr erthygl yn cylchgrawn Plan B sbel yn ôl, gan addo lanlwytho copi llawn o’r erthygl. Wpsi. Diolch i Carl Morris, felly, am hala copi o’r PDF ata i. Rhowch glec ar y llun isod i’w darllen. Mae PDFs pob rhifyn o Plan B – sydd erbyn hyn wedi peidio â bod, [...]


Dave yn Darllen

Bydd noson arbennig yn Llyfrgell Aberteifi i ddathlu cyhoeddiad llyfr David, nos Fercher 9 Rhagfyr 2009 am 7.30. Manylion yn poster isod. – Diweddiad: lluniau o’r darlleniad/cyfweliad.


Hunangofiant Dave ar y ffordd!

Bydd Hunangofiant Hen Wanc gan David Edwards yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Gwelais i ddetholiad bach ohono heddi, ac mae’n edrych yn wych. Mae Gwales ac Amazon yn cymryd ordrau nawr.


Lluniau Pesda Roc 1985 (ac eraill)

Mae GanMed64 wedi postio set o luniau Pesda Roc 1985 i Flickr, sy’n cynnwys dyrnaid o luniau Datblygu. Mae cwpl dw i wedi gweld o’r blaen (un adnabyddus iawn o David a’r un bach yn drist ‘ma) ond hefyd un dw i ddim yn ei nabod o Pat, wedi’i bliso m’as ar y bas. [Gol. [...]


Cân y Mynach Modern

Mae Ankst wedi rhyddhau cân newydd cyntaf gan Datblygu ers blynyddoedd maith – Cân y Mynach Modern. Mae’r gân ar gael ar sengl 7″ yn unig o wefan Ankst. Recordiwyd y gân yn stiwdio Fflach, Aberteifi, yn gynharach eleni, gan David a Pat yn unig. Dangoswyd ffilm o’r sesiwn yn y noson lansio CD y [...]


Erthygl Plan B

Erthygl newydd ar Datblygu yn y cylchgrawn Plan B.


Ypdêt cyntaf ers tro byd

I ddweud mod i ddim wedi angohofio am hyn, mod i am fwriadu ychwanegu mwy o bethau cyn bo hir, a mod i wedi trwshio lincs i gwpl o MP3s o’r caset Fi Du, sy bod yn ffycd ers iddyn nhw gael eu postio. Iw cant get ddy staff.


Cyfweliad newydd â David R. Edwards

Cyweliad newydd gyda Dave, lle mae’n sôn am ei hoff ganeuon a pherfformiadau, i berthynas i John Peel a thîm pêl droed Chelsea ac am bwysigrwydd Tesco, Aberteifi i’r dyn ambyti’r dre.


Fideo “Ugain i Un” ar YouTube

Trac arall o’r ffansîn DVD o Ankst, Crymi #2.


Fideo “Syrffedu” ar YouTube

Fideo i’r trac Syrffedu oddi ar y DVD Ankst, Crymi #2. Mae’r DVD ar gael yn rhad ac am ddim, os ti’n prynu rhywbeth o wefan Ankst.


Flaming Lips yn ffans Datblygu?

Yn ôl Huw Stephens yn y Western Mail: I knew drummer Kliff was a big fan of Welsh music having heard seminal band Datblygu blast out of the speakers at their CIA gig in Cardiff a few years back, and when I met him after the gig, he was wearing a Gorky’s t shirt.


Ypêts Wyth Chwech Chwech

Mwy o stwff yn yr adran Gwasg, diolch i Dafydd. Cryn dipyn o Sothach Haf 1993 (rhan 2 a rhan 3), llun neis yn Sothach Awst 1992, ac erthygl, disgyddiaeth ac adolygiad yn y ffansîn Psycho, Haf 1992. Hefyd, set o luniau o gasgliad personol Pat Morgan.


Ypêts Saith Chwech Chwech

Toriadau o ffansîns yr 80au, wedi’u hanfon i mewn gan Rhys Williams. Dyfodol Dyddiol, Llmych, a Syth o’r Rhewgell. Dilyn taith Hwgr Grawth Og trwy siartiau’r Cymro.


Ypêts Chwech Chwech Chwech

Wedi’u hychwanegu heddi: Manylion tri chasgliad, sef Yr Ysbryd yn y Sac Cysgu / Burning Down the Chapels, Triskedekaphilia a Radio Crymi Playlist. Cofnod i bob sesiwn John Peel, gan gynnwys cyfle i glywed y traciau o sesiwn Gorffennaf 1993. Adolygiad o’r cylchgrawn Planet. Also, added a new category, English, for press articles in that [...]


Datblygu ar iTunes

Diolch i Suw am hyn: mae cynnwys y pecyn tairalbym bellach ar gael ar iTunes, a gwasanaethau eraill, mae’n debyg. Mae un trac arall gan y band ar iTunes, sef fersiwn wedi’i hailficsio o Maes E o’r casgliad “Croeso ’99″. Gwerthfarogwn unrhyw wybodaeth am hyn, dyma’r tro cyntaf i mi ei glywed. Sleifar yw un [...]