Portread David gan Malcolm Gwion

88 David

Wedi gweld y llun yma cwpl o weithiau hyd yn hyn, unwaith mewn sioe yng Ngwersyll yr Urdd (!) ac yn fwy diweddar, mewn arddangosfa o waith Malcolm yn Theatre Mulled Anne.

Mae hanes Malcolm a Datblygu yn mynd yn ôl reit at y dechreuad, wrth gwrs. Fe wnaeth ryddhau y casetiau cynnar Amheuon Corfforol, Trosglwyddo’r Gwirionedd, a Fi Du ar ei label, Recordiau Neon.

Perfformiwr oedd Malcolm hefyd. Dyma fe’n canu un o’i ganeuon ei hun, yn gynnar (iawn?) yn yr 80au.

Cyn Symud i Maes E

Mae ypdêts ar y gwefan hwn fel bysus Pontgarreg; does dim un ers misoedd, ac wedyn mae un yn dod bob 10 munud rhyw nos Wener pan ti wedi hen dderbyn bod pawb sy’n gweithio i’r Brodyr Richard wedi mynd at eu gwobrau.

Wel, ocê, ddim cweit fel hynny. Lot o ypdêts, dyna beth dw i’n dweud. Dw i’n trial dal i fyny ar ôl bod yn ddiog.

Y fideo yma, er enghraifft, wedi cyrraedd YouTube yr wythnos hon, ar ôl “casglu llwch am flynyddoedd”, yn ôl Victoria Morgan. Gwylies i hwn yn y gwely y bore yma, a dyna’r dechreuad gorau i ddydd Gwener dw i’n cofio ers tro byd.

Wythnos diwetha, wnaeth Victoria lanlwytho fideo arall dw i erioed wedi gweld o’r blaen, sef y fersiwn gwreiddiol o Maes E:

Sut yn y byd mae’r pethau yma heb fod ar y we cyn nawr?