Tatw Datblygu

Ar flog Huw Stephens heddi, Y Tatŵ mwya’ cŵl erioed. Sarah Datblygu sy biau’r fraich, ac felly’r tatŵ:

tatw_dat

Erthygl Plan B (2008)

Soniais i am yr erthygl yn cylchgrawn Plan B sbel yn ôl, gan addo lanlwytho copi llawn o’r erthygl. Wpsi.

Diolch i Carl Morris, felly, am hala copi o’r PDF ata i. Rhowch glec ar y llun isod i’w darllen. Mae PDFs pob rhifyn o Plan B – sydd erbyn hyn wedi peidio â bod, yn anffodus – ar gael o’u gwefan, fel torrent.

Erthygl Plan B

Erthygl Plan B

Dave yn Darllen

Bydd noson arbennig yn Llyfrgell Aberteifi i ddathlu cyhoeddiad llyfr David, nos Fercher 9 Rhagfyr 2009 am 7.30. Manylion yn poster isod.

Noson gyda Dave

Diweddiad: lluniau o’r darlleniad/cyfweliad.

Hunangofiant Dave ar y ffordd!

Bydd Hunangofiant Hen Wanc gan David Edwards yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Gwelais i ddetholiad bach ohono heddi, ac mae’n edrych yn wych.

Mae Gwales ac Amazon yn cymryd ordrau nawr.

Lluniau Pesda Roc 1985 (ac eraill)

Mae GanMed64 wedi postio set o luniau Pesda Roc 1985 i Flickr, sy’n cynnwys dyrnaid o luniau Datblygu. Mae cwpl dw i wedi gweld o’r blaen (un adnabyddus iawn o David a’r un bach yn drist ‘ma) ond hefyd un dw i ddim yn ei nabod o Pat, wedi’i bliso m’as ar y bas.

[Gol. 7/9/09]

Mwy o luniau gan yr un ffotograffydd, y tro ‘ma o’r gig “Fy Nhethau yn Ffrwydro gyda Mwynhad”, Gwesty’r Marine, Aberystwyth, Awst 30ain 1986.

Dave a Pat a Pat wrth ei hunan.

[Gol. 10/09/09]
Mae Med wedi postio mwy o’i luniau, a’u rhoi mewn set Flickr, Datblygu i gyd.

Cân y Mynach Modern

Datblygu - Cân y Mynach Modern
Mae Ankst wedi rhyddhau cân newydd cyntaf gan Datblygu ers blynyddoedd maith – Cân y Mynach Modern. Mae’r gân ar gael ar sengl 7″ yn unig o wefan Ankst.
Recordiwyd y gân yn stiwdio Fflach, Aberteifi, yn gynharach eleni, gan David a Pat yn unig. Dangoswyd ffilm o’r sesiwn yn y noson lansio CD y Peel Sessions, yn Aberystwyth ym mis Ebrill.

Erthygl Plan B

Mae rhifyn Gorffennaf y cylchgrawn Plan B yn cynnwys erthygl wych ar Datblygu. Mae’r cylchgrawn ar gael am £4.00 o fan hyn. Wna i bostio PDF o’r erthygl yn y man, ond dyma cwpl o dameidiau i aros pryd:

A photo in the booklet for Wyau/Pyst/Libertino, the essential collection of Datblygu albums, shows a temporary stage housed on a huge truck, someweher in Wales, covered by a tarpaulin and occupied by Datblygu themselves. You have to look twice to notice anyone apart from vocalist David R Edwards, who’s standing on the lip and barking at six children sitting on the grass wearing anoraks. It’s an image so dreary and purgatorial, you imagine that despite being a black and white picture, it was taken using colour film. Intentionally or otherwise, it conveys the notion of a prophet unrecognised in his own land, which is at least a half-truth…

I don’t know how much I’m missing out on by not being a Welsh speaker, but even accounting for whatever nuances are lost post-Anglicisation, DRE still beats down almost all late 20th Century lyrical challengers. The Dylans, Cohens and Mark E Smiths take their rightful place in the comparison fodder…

Ypdêt cyntaf ers tro byd

I ddweud mod i ddim wedi angohofio am hyn, mod i am fwriadu ychwanegu mwy o bethau cyn bo hir, a mod i wedi trwshio lincs i gwpl o MP3s o’r caset Fi Du, sy bod yn ffycd ers iddyn nhw gael eu postio.

Iw cant get ddy staff.

Cyfweliad newydd â David R. Edwards

Cyrhaeddodd y cyfweliad newydd sbon yma drwy’r post ddoe. Diolch yn fawr i David ac i’r cyfaill anhysbys wnaeth lunio’r cwestiynau.

1. Beth wyt ti’n meddwl am y ffaith bod gwefan ar gael i gyd am Datblygu?

Wel, mae’n dda bod yn rhan o’r byd modern. Ond mae’n rhyfedd fod rhywun wedi mynd i’r trafferth o wneud gwefan i gyd am y band. Mae’n anrhydedd. Diolch Nic.

2. Ar beth wyt ti’n gwrando arno ar hyn o bryd? Wyt ti’n gwrando ar lawer o gerddoriaeth newydd, y radio, neu rywbeth arall?

Radio 6, y pêl droed ar Radio 5, Huw Stephens ar Radio Cymru a hen recordiau gan bobl fel Joy Division. Hefyd Radio 2 ond ddim Radio 1 ers i John Peel farw.

3. Beth oedd gig gorau Datblygu yn bersonol i ti?

Doeddwn i ddim yn hoff iawn o chwarae o flaen pobl – felly fy hoff perfformiadau yw y pumed sesiwn Peel, a perfformiad byw recordion ni i ‘Fideo Naw’ – y caneuon “Rauschgiftsuchtige” a “Dim Deddf, Dim Eiddo”.

4. Beth yw dy hoff gân Datblygu a pham?

Mae’n amrywio o wythnos i wythnos. Ar y funud rwy’n hoff o “Cyn Symud i Ddim” o 1985, fersiwn Peel o “Gwlad ar fy Nghefn” a un cân o’r pumed sesiwn Peel – “Mae Arian yn Tyfu Tu Mewn Coed”. Pam? Oherwydd eu bod yn cyflawni beth roeddwn eisiau.

5. Wnest ti gyfarfod John Peel wrth recordio’r holl sesiynau Peel? Sut oedd e’n teimlo ei fod yn cymryd gymaint o sylw o’r band?

Cwrddes i â John yn Aberhonddu yn 1986, doedd e ddim yn y stiwdio pan roeddwn yn recordio. Roedd yn grêt cael sylw ganddo. Roeddwn wedi bod yn gwrando ar ei raglen ers 1978 felly roedd yn anrhydedd fod yn rhan o’i sioe. Rwy’n ei golli yn fawr.

6. Pam wyt ti’n cefnogi Chelsea?

Roedd Dad a Mam yn cefnogi Leeds yn rownd olaf Cwpan F.A. 1970 am fod ganddynt golgeidwad Cymraeg – roedd rhaid i fi fod yn wahanol felly cefnogais y tîm arall. Chelsea enillodd ac rwy i wedi eu cefnogi ers hynny.

7. Ydy Cymru’n mynd i ennill cwpan y byd nes ymlaen y flwyddyn yma?

Gobeithio. Ond mae timau fel Awstralia a Seland Newydd rhy gryf.

8. Lle yw hoff le yn y byd yr wyt ti wedi ymweld â?

Tri ateb. Yn gyntaf – ystafelloedd gwely cyn cariadon. Yn ail – stiwdios y B.B.C. yn Maida Vale, Llundain. Yn drydydd – Tesco Aberteifi, lle mae popeth rwy’i angen ar gael.

9. Os bydde ti’n gallu recordio sesiwn yn y stiwdio gyda unrhywun, byw neu farw, pwy fyset ti’n dewis?

“Toss up” rhwng Kurt Cobain a Frank Sinatra. Tu allan i fyd cerddoriaeth – Charles Bukowski. Mae rhain i gyd wedi marw yn anffodus.

10. Oes gen ti unrhyw fwriad recordio mwy o gerddoriaeth yn y dyfodol?

Dydw i heb pigo lan y gitar ers dros degawd felly nid yw’n debygol.

11. Pwy yw dy hoff fand/artist Gymraeg erioed? Pam?

Pop Negatif Wastad. Gwnaethon nhw un albwm. Roeddwn yn ffrindiau gyda Esyllt a Gareth ac roedd yn grêt clywed eu gwaith.

12. Pwy yw dy hoff fand/artist rhyngwladol erioed? Pam?

The Fall. Am fod Mark Smith yn athrylith ac am fod e wedi cadw i fynd am 30 blwyddyn.

13. Beth yw dy hoff frecdan?

Caws a tomato – dydw i ddim yn bwyta cig.

14. Wyt ti’n ymweld â’r we o gwbl?

Nac ydw. Sdim cyfrifiadur gyda fi.

15. Oes gen ti unrhywbeth i ychwanegu?

Dim ond dweud diolch m y cyfweliad. Mae’n dda cael ymarfer yr ymennydd. A roedd y cwestiynau yn fwy perthnasol na’r rhai roedd rhaid diodde yn yr ysgol a’r coleg ac mewn cyfweliadau ar gyfer swyddi.

Fideo “Ugain i Un” ar YouTube

Trac arall o’r ffansîn DVD o Ankst, Crymi #2.

Fideo “Syrffedu” ar YouTube

Fideo i’r trac Syrffedu oddi ar y DVD Ankst, Crymi #2. Mae’r DVD ar gael yn rhad ac am ddim, os ti’n prynu rhywbeth o wefan Ankst.

Flaming Lips yn ffans Datblygu?

Yn ôl Huw Stephens yn y Western Mail:

I knew drummer Kliff was a big fan of Welsh music having heard seminal band Datblygu blast out of the speakers at their CIA gig in Cardiff a few years back, and when I met him after the gig, he was wearing a Gorky’s t shirt.

Ypêts Wyth Chwech Chwech

Mwy o stwff yn yr adran Gwasg, diolch i Dafydd.

Cryn dipyn o Sothach Haf 1993 (rhan 2 a rhan 3), llun neis yn Sothach Awst 1992, ac erthygl, disgyddiaeth ac adolygiad yn y ffansîn Psycho, Haf 1992.

Hefyd, set o luniau o gasgliad personol Pat Morgan.

Ypêts Saith Chwech Chwech

Toriadau o ffansîns yr 80au, wedi’u hanfon i mewn gan Rhys Williams. Dyfodol Dyddiol, Llmych, a Syth o’r Rhewgell.

Dilyn taith Hwgr Grawth Og trwy siartiau’r Cymro.

Ypêts Chwech Chwech Chwech

Wedi’u hychwanegu heddi:

Manylion tri chasgliad, sef Yr Ysbryd yn y Sac Cysgu / Burning Down the Chapels, Triskedekaphilia a Radio Crymi Playlist.

Cofnod i bob sesiwn John Peel, gan gynnwys cyfle i glywed y traciau o sesiwn Gorffennaf 1993.

Adolygiad o’r cylchgrawn Planet.

Also, added a new category, English, for press articles in that fine language.

Cardiau post at Dave oddi wrth John Peel o 1988 a 1993.

Datblygu ar iTunes

Diolch i Suw am hyn: mae cynnwys y pecyn tairalbym bellach ar gael ar iTunes, a gwasanaethau eraill, mae’n debyg.

Mae un trac arall gan y band ar iTunes, sef fersiwn wedi’i hailficsio o Maes E o’r casgliad “Croeso ‘99″. Gwerthfarogwn unrhyw wybodaeth am hyn, dyma’r tro cyntaf i mi ei glywed. Sleifar yw un o’r rapwyr, yn amlwg, ond pwy yw’r llall?

Sesiwn Peel a chyfweliad Beti George

Newydd ychwanegu dau beth o’r archifau – Sesiwn John Peel o 1992, a’r cyfweliad wnaeth DRE ar sioe Beti a’i Phobl yn 2001.

Ebost yn gweithio

Newydd sylweddoli mod i wedi sôn (ar Bandit) am gyfeiriad ebost datblygu@datblygu.com – dim ond nawr dw i wedi cofio seto hwnna lan.

Ymddirheuriadau i unrhyw un sy wedi’n hebostio ni a heb gael ymateb. Dylai fod yn iawn nawr.

A oes sganiadau?

Dyn ni wedi cael cwpl o sganiadau o gloriau prin ac ati, ond pethau oedd gyda ni yn barod oedd y rheini, yn anffodus. Falle byddai’n syniad i mi bostio rhestr yma o bethau sy ddim gyda ni, er mwyn i bobl helpu mas. Bydd y rhestr yma yn tyfu, wrth i mi ail-gydio yn y gwaith sganio (wedi bod yn fishi gyda “gwaith” yn diweddar).

Os oes rhywbeth gyda chi, gadewch sylw yma, neu gysylltu â fi trwy ebost.

  • Putsch – angen sgan o glawr a label y record (mae caset gyda fi)
  • Ll.Ll v. T.G. v. DRE – angen sgan o glawr a label y record

  • Peel Sessions – angen sgan o glawr a label y record
  • Wyau a Pyst – cloriau a labeli y ddau record gwreiddiol

Adran Fideos

Diolch i Dafydd, sy wedi postio fideos Datblygu ar YouTube, mae gyda ni adran fideos fach. Gobeithir y bydd mwy o bethau yn ymddangos fan hyn co bo hir.